Elusen Gristnogol yn cynrychioli rhai o eglwysi ardal Llŷn ac Eifionydd, Gwynedd yw Trobwynt. Y mae Trobwynt yn cyflwyno’r ffydd Gristnogol i’r ieuenctid gan wasanaethu’r bobl ifanc, ysgolion a theuluoedd trwy bartneriaeth gyda’r Eglwysi lleol.

pen-llyn1

Y mae Trobwynt yn gweithio…
…yn yr eglwysi i hyrwyddo, hyfforddi a chefnogi cynlluniau ieuenctid a chynorthwyo gweithgareddau perthnasol lleol. Rydym am gynorthwyo’r eglwysi i gynnal ac adeiladu eu gwaith ymhlith plant 10 mlwydd oed a hyn.

…yn yr ysgolion i gyfrannu at ddatblygiad addysgol, moesol ac ysbrydol ein pobl ifanc drwy weithio mewn partneriaeth ag athrawon a gweithwyr ysgolion eraill.

…yn y gymuned i hyrwyddo Cristnogaeth ymhlith ieuenctid gan gyflwyno ‘role model’ Gristnogol.

GWEITHWRAIG TROBWYNT

Rachel Settatree

Hogan o Ben Llŷn yw Rachel, wedi mynd i ysgolion cynradd Abersoch a Mynytho, wedyn i Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor.

Daeth yn Gristion pan oedd yn saith oed. Cadarnhaodd y penderfyniad hwn mewn bedydd bedair blynedd wedyn. Mae Rachel yn cymysgu’n dda gyda phobl o bob oed. Mae hi wrth ei bodd yn annog a chefnogi eraill.

YMDDIRIEDOLWYR

P1000297xWilliam P. Jones

Magwyd a byw ym mhentref Tudweiliog gydol ei oes. Ymddeolodd o ffermio ym 2007. Ordeiniwyd yn flaenor gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym 1975. Gwr i Gwen, sy’n hoffi coginio, tad i Rhian ac Iona a thaid i bump. Mae’n hoffi rygbi, cerddoriaeth a dal i ymddiddori mewn ffermio.

p1000286xY Parch Peter a Lis James

Ganwyd yn Reading 1942. Daeth yn Gristion pan oedd yn 15 yn Eglwys S Ioan.  Aeth i Coleg Keble, Rhydychen i ddarllen hanes ac ymunodd â’r Undeb Cristnogol yno. Aeth i Goleg diwinyddol Tyndale Hall Bryste. Priododd Carole 1965, pedwar o blant a deg o wyrion ac wyresau. Ordeinwyd yn Esgobaeth Lerpwl 1967. Symudodd i Harlech 1980, ar ôl dechrau dysgu Cymraeg. Bu farw Carole ym 1985 a phriododd o Lisbeth. Symudodd i Fotwnnog ym 1994 ac, wedi ymddeol, i Lithfaen yn 2007.

Y mae Lisbeth yn wraig i Peter ers 23 o flynyddoedd. Cyfarfu’r ddau tra roedd Peter yn ficer yn Harlech ar ôl iddo ef a’i deulu symud yno. Magwyd ar fferm yng Nghwm Nantcol, Bro Ardudwy, ac yn diolch i Dduw am fagwraeth hapus iawn. Aeth i goleg hyfforddi’r Normal ym Mangor, dysgu am gyfnod, yna i Goleg Beiblaidd Cliff am flwyddyn a threulio dros 12 mis yn Israel. Yna, cafodd brofiad gwerth chweil o fywyd priodasol efo gwr a chanddo bedwar o blant yn eu harddegau! Dywed ei fod yn hwyl bod yn nain i 10 o blant a chael treulio mwy o amser efo nhw rwan wedi iddynt ymddeol i Lithfaen. Mae’r ddau wrth eu boddau yn cerdded. Ar hyn o bryd mae’n cael gwersi chwarae piano ac yn mwynhau yn fawr. Byddai wrth ei bodd pe tasai’n medru cerdded ar y Grib Goch cyn mynd yn rhy hen!

img_0003aaY Parch Robert Roberts

Magwyd yn Llawrydref, Llangian yng ngwlad Llŷn. Dod i sicrwydd ffydd yn Iesu Grist tra yn y coleg.   Wedi graddio mewn Bywydeg a Diwinyddiaeth, ordeiniwyd yn weinidog gyda’r Eglwys Bresbyteraidd ym 1979. Wedi saith mlynedd yn weinidog ar bedair eglwys yn Nyffryn Conwy daeth yn weinidog i ofalaeth Morfa Nefyn ym 1986.  Bellach mae’n gofalu am 6 eglwys – Morfa Nefyn, Nefyn, Pentreuchaf, Y Ffôr, Thudweiliog a Botwnnog . Yn briod â Helen ac yn dad i Owain, Elin a Sian.

p1000290xAndrew Bradley

Ganwyd a’i fagu yn ne Lloegr (Dyfnaint a Hampshire) ac yn forwr o fri oherwydd iddo fyw ar lannau’r Solent. Hoff iawn o’r ysgol pan yn blentyn ac yna dysgu am 27 mlynedd. Bu’n brifathro am 11 mlynedd mewn ysgol uwchradd cyn derbyn ymddeoliad cynnar ym 1993. Ers iddo ymddeol, er mwyn helpu’r pensiwn, mae wedi bod ym myd argraffu ac yn gwneud gwaith Cristnogol ymhlith plant ac ieuenctid. Mae’n byw yng Nghricieth ers 1998 ac yn arweinydd Clwb Gwyliau Cricieth ers 1993. Roedd yn un o sylfaenwyr Eglwys Deuluol Cricieth ym 1999 ac yn un o’r arweinwyr. Sefydlodd Siop Gristnogol Roots yng Nghricieth. Mae gan Alison (ei wraig ers 40 mlynedd) ac yntau dri o blant a 2 ŵyr.

P1000324xxxx                                                                                         Y Parch Ben Thomas

Magwyd yn y Fflint a daeth i nabod Crist fel ei geidwad mewn gwersyll Cristnogol yn y Bala yn 14 mlwydd oed. Aeth i’r Brifysgol yng Nghaerdydd i astudio Ffrangeg a Sbaeneg a dyna lle gyfarfodd â Bethan – fe briododd y ddau yn y flwyddyn 2000. Gweithiodd fel newyddiadurwr i BBC Cymru am wyth mlynedd cyn ateb galwad Duw i fynd i Covent Garden lle bu’n efengylydd a phregethwr stryd am dair blynedd. Ym Medi 2008 daeth yn ôl i Gymru i fod yn weinidog cyntaf ar Eglwys Deuluol Cricieth. Mae’n dad i Megan, Angharad a Joseff ac yn mwynhau seiclo a gwneud ffilmiau byrion.

img_0044aY Parch Gwyn Rhydderch

Hogyn o Bwllheli. Daeth yn Gristion ym 1972. Graddio ym 1980. Ordeinwyd yn weinidog gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym 1981. Wedi gweinidogaethu yn Llanymddyfri, Llanrhaeadr ym Mochnant ac ym Mhen Llŷn. Bellach yn Gyfarwyddwr Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yn briod efo Angela ac yn dad i Leah Gwyn ac Elin Gwyn. Mae’n hoffi garddio, ffotograffiaeth ac wrth gwrs rygbi!



Follow

Get every new post delivered to your Inbox.