Archive for March, 2011

Trobwynt i Trobwynt!

Wel, mae ’na newidiadau ar y gweill yn Trobwynt dros y misoedd nesaf. Mae John wedi cael swydd newydd – Cydgysylltydd Cymru gyda Scripture Union. Bydd arnon ni hiraeth ar ei ôl ond bydd yn braf ei weld yn cael swydd newydd a fydd yn golygu cydweithio â Trobwynt. Gobeithio y gallwn ni gydweithio ar nifer o brosiectau a bydd John yn dal i drefnu ac arwain y twrnament pêl-droed i hogia Ll?n. Mae hyn yn golygu y bydd Rachel yn weithiwr llawn amser gyda Trobwynt, a bydd yn dal i gydweithio â’r holl grwpiau presennol. Rydan ni’n gwybod bod llaw Duw yn hyn ac rydan ni wrth ein bodd o weld Duw yn gweithio yng Nghymru, ac yn arbennig yn yr ardal yma.

Gofynnwn i chi weddïo dros John a Rachel ar ddechrau’r cyfnod newydd yma a gweddïo y bydd Duw yn codi rhagor o wirfoddolwyr ar gyfer y grwpiau.

CIC Alffa

Mae ein holl grwpiau CIC wedi bod yn mynd yn dda dros y misoedd diwethaf. Erbyn hyn, mae gennym ni CIC yn y Ffôr, Morfa Nefyn, Cricieth, Llithfaen a grwp ieuenctid yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli.

Mae gynnon ni ail grwp ym Mofa Nefyn o’r enw CIC Alffa, i rai o Flwyddyn 9 ymlaen sydd eisiau mynd ychydig yn ddyfnach i’r Beibl, a dysgu mwy am Gristnogaeth. Rydan ni wedi bod yn dilyn dvd Soul (The Good Book Company) ac wedi cael ein calonogi gan nifer y bobl ifanc, y cyffro yn eu plith a’r cwestiynau y maen nhw’n eu gofyn. Mae astudio efo’n gilydd fel hyn yn dipyn o her. ‘Gras’ yw thema un o’r sesiynau ac fe ofynnodd un o’r bobl ifanc i ni, “Sut ga i fynd i’r Nefoedd a bod gyda Duw?” Mae’n fraint fawr cael gweithio efo’r bobl ifanc yma a gweld y ffordd y mae Duw yn gweithio yn eu calonnau gan eu newid yn raddol.

Diwrnod o Weddi

Yn ystod mis Chwefror, fe gawson ni Ddiwrnod o Weddi dros ardaloedd Ll?n ac Eifionydd. Roedden ni’n ymuno â llawer o bobl ledled Cymru oedd yn gweddïo dros eu hardaloedd yn ystod yr wythnos honno. Fuon ni’n gweddïo dros y gwahanol bentrefi, y capeli a’r eglwysi a’r gwaith sy’n digwydd yn y cymunedau. Roedd yn wych gweld 38 o bobl yn dod yn ystod y dydd i gyflwyno’u pentref i Dduw a gweddïo dros y bobl yno. Cafodd llawer o bobl

fendith trwy dreulio amser gyda’i gilydd fel hyn ac rydan ni’n bwriadu cynnal diwrnod arall tebyg cyn hir.

Clwb Plant Tudweiliog

Mae Clwb Plant Tudweiliog wedi bod yn hwyl fawr dros y tymor a hanner diwetha, ac mae llawer o blant yr ysgol yn dod. Yn ddiweddar, buon ni’n edrych ar dair dameg a bu’n wych gweld y plant yn deall y straeon, yn eu cofio o’r Ysgol Sul ac yn gofyn cwestiynau da am Dduw ac Iesu. Mae’n hwyl ac mae’n dda gweld plant bach yn cyffroi am y Beibl.

 



Follow

Get every new post delivered to your Inbox.