Rŷn ni wedi bod yn cael amser ardderchog yn CIC Llithfaen yn ddiweddar a chriw gwych o bobl ifanc yn llawn brwdrydedd bob wythnos. Un o’r uchafbwyntiau oedd noson Ready Steady Cook. Ann Roberts a Lis James oedd yn gyfrifol am y sesiwn goginio. Llwyddodd pob un o’r bobl ifanc i greu brechdan arbennig a phwdin a chafodd Peter James y fraint o ddewis yr enillydd. Ar ddiwedd y noson, bu John yn sôn am ‘Sut y gallwn ni drystio’r Beibl’. A rhoddodd her i’r bobl ifanc i ddarllen y Beibl.
Hoffem i chi Weddïo: Y bydd y bobl ifanc hyn yn cael gafael ar Dduw ac yn dechrau darllen ei Air drostyn nhw’u hunain.
