Bu Rachel ym Melffast am ddeuddydd yn ceisio perswadio pobl i ddod i weithio gyda ni yn y Beach Mission yn Nhudweiliog dros yr haf. Gwnaed y cysylltiad gan Erika Frank (Eglwys Botwnnog) sy’n hen ffrind i Rachel ac sy’n gaplan ym Mhrifysgol Belffast. Cafodd Rachel amser ardderchog yn rhannu gyda’r myfyrwyr ac yn dod i nabod rhai ohonyn nhw. Mae rhwng 8 a 10 o bobl yn bwriadu dod draw i ymuno â’r tîm lleol yn y gwaith ar y traeth yn yr haf.
Hoffem i chi Weddïo y bydd Duw’n arwain y bobl iawn i’r tîm ac y bydd y gwaith cenhadol yn dwyn ffrwyth ym mywydau’r tîm a bywydau’r plant a’r bobl ifanc y byddwn ni’n cyfarfod â nhw.
