Storiau Duw 1 gan John Settatree

storiauduwllyfr1

Nod y llyfr hwn yw darparu adnodd i chi allu cynnal grŵp ieuenctid Cristnogol ar gyfer ieuenctid sy’n mynychu eglwysi yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn mynychu. Mae’r sesiynau’n deillio o brofiad John a Rachel Settatree yn arwain grwpiau ieuenctid a chynnal sesiynau mewn ysgolion gyda Trobwynt ym Mhen Llŷn. Y mae dau aelod o’u grwpiau, sef Garreth Frank a Jake Meadows hefyd wedi helpu gyda’r broses olygu, gan awgrymu a sgrinio Gemau.

Mae Llyfr 1 yn darparu cyflwyniad i’r ffydd Gristnogol, gyda phob sesiwn yn delio â gwirioneddau sylfaenol Cristnogol. Felly, ceir trosolwg syfaenol o’r Efengyl o dan y teitl ‘Stori Duw’ er mwyn darparu darlun mwy cyflawn o’r Beibl. Ceir cyfres ar Fywyd Moses a’r 10 Gorchymyn, sy’n ceisio ateb y cwestiynau – Pwy yw Duw?, Pwy ydw i? a Pham ydw i yma? Yn olaf, ceir cyfres ar fywyd Pedr sy’n bwrw golwg ar gael perthynas â Iesu.

Rydym hefyd wedi cynnwys adran gemau gyda dros 20 o gemau y gellir eu defnyddio dro ar ôl tro. Yn ogystal â hyn, rydym wedi cynnwys nifer o syniadau am nosweithiau ieuenctid gwahanol a fu’n llwyddiannus a phoblogaidd iawn mewn nifer o grwpiau ieuenctid amrywiol. Gweler hefyd ychydig o ddramâu y gellir eu defnyddio fel rhan o sesiwn neu o fewn gwasanaeth eglwysig.

Gellir archebu’r llyfr drwy eich siop lyfrau lleol neu drwy gysylltu âg Aled Davies 01766 819120.